Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17 Ebrill 2013
i'w hateb ar 24 Ebrill 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid

 

1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran trafodaethau gyda'r Trysorlys am drosglwyddo pwerau benthyca ar gyfer prosiectau seilwaith. OAQ(4)0244(FIN)

2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y Trysorlys ynglŷn â dyrannu cyllid i Gymru. OAQ(4)0242(FIN)

 

3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran creu Trysorlys i Gymru. OAQ(4)0237(FIN)

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllideb cyffredinol i'r adran Diwylliant a Chwaraeon. OAQ(4)0238(FIN)

5. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ynglŷn â dyranu cyllid cyfalaf. OAQ(4)0240(FIN)W

 

6. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o’r effaith ar reoli adnoddau Llywodraeth Cymru ar ôl i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd. OAQ(4)0243(FIN)

 

7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ynghylch y dyraniad cyffredinol i'w bortffolio. OAQ(4)0249(FIN)

 

8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y cynnydd o ran Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i Gymru. OAQ(4)0250(FIN)

9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch y sefyllfa gyllidebol ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer eu hadrannau. OAQ(4)0246(FIN)W

 

10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sefydlu swyddogaeth Trysorlys newydd i Gymru. OAQ(4)0247(FIN)

 

11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllideb cyffredinol i'r portffolio Cyfoeth Naturiol a Bwyd. OAQ(4)0251(FIN)

12. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei hystyriaethau o ran darparu cyllid ychwanegol i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(4)0245(FIN)

 

13. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnydd Llywodraeth Cymru o'r Cytundeb Fframwaith Ymchwil a Gwerthuso. OAQ(4)0241(FIN)

 

14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adnoddau y mae wedi'u dyrannu i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(4)0239(FIN)

 

15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw arfer da o ran chwythu'r chwiban yn cael ei gamddefnyddio gan awdurdodau sy'n honni problemau ynghylch cyfrinachedd. OAQ(4)0248(FIN)

 

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

 

1. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad awdurdodau lleol yn yr ardaloedd o Gymru yr effeithiwyd arnynt gan eira trwm y mis diwethaf. OAQ(4)0264(LG)

 

2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Grant Cynnal Refeniw. OAQ(4)0256(LG)

 

3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd yn ystod 2013 i fynd i'r afael â thrais domestig yng Nghymru. OAQ(4)0259(LG)

 

4. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais domestig. OAQ(4)0265(LG)

 

5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i awdurdodau lleol yng Nghymru ar weithredu cyflog byw. OAQ(4)0255(LG)

 

6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo bod yn fwy agored a thryloyw mewn llywodraeth leol. OAQ(4)0260(LG)

 

7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fformiwla gyllido'r Asesiad o Wariant Safonol ar gyfer awdurdodau lleol Cymru. OAQ(4)0266(LG)

 

8. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu enghreifftiau o arfer gorau o ran gwasanaethau llywodraeth leol yn cydweithio. OAQ(4)0262(LG)

 

9. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu amrywiaeth cynrychiolwyr etholedig mewn llywodraeth leol yng Nghymru. OAQ(4)0258(LG)

 

10. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwerth am arian a gyflawnir gan awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0268(LG)

 

11. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dâl uwch-swyddogion mewn llywodraeth leol? OAQ(4)0261(LG)W

 

12. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strwythurau llywodraethu awdurdodau lleol. OAQ(4)0257(LG)W

 

13. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo aelwydydd i dalu eu biliau treth gyngor. OAQ(4)0263(LG)

 

14. Keith Davies (Llanelli):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfrifoldebau gweithredol gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru. OAQ(4)0269(LG)

 

15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gwella perfformiad llywodraeth leol yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0267(LG)

 

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

 

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau